Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/137

Gwirwyd y dudalen hon

cynnal uniondeb yn y byd hwn ac yn ei gwpláu yn rhywle arall. Ond, onid oes farnwr, a oes ynteu gyfiawnder amgen nag a luniodd dynion, nid yn unig drwy gyfreithiau a llysoedd, eithr hefyd yn eu holl ymwneud â'i gilydd? Yn ei ymchwil, y mae ef yn cael bod cyfiawnder nad oes dianc rhagddo, bod y cyfiawnder hwnnw yn cau am holl fywyd dyn, a bod yn teyrnasu yn ei ganol yntau ddeall nad yw'n ei dwyllo ei hun ac nas twyllir chwaith. Deil fod cyfiawnder anianol a chyfiawnder ysbrydol yn cynnwys pob ffurf ar gyfiawnder sydd yn ymddangos i ni fel pe'n bod heddiw, uwchlaw cyfiawnder cymdeithasol, ond nad oes dim cyfiawnder anianol yn tarddu o achosion moesol i'w gael yn ein byd ni. Nid yw'r ddaear na'r nefoedd, meddai, natur na mater na'r ether, nac un nerth neu rym a adwaenom ni, yn ymboeni ynghylch cyfiawnder, ac nid oes iddynt y berthynas leiaf â'n moes, â'n meddyliau nac â'n bwriadau ni. Rhwng y byd oddi allan a'n gweithredoedd ni, nid oes onid perthynas syml achos ac effaith, peth nad oes ynddo o angenrheidrwydd ddim moes o gwbl. Er enghraifft, pe neidiai dyn i'r dwfr i achub dyn arall rhag boddi, neu pe syrthiai i'r dwfr wrth geisio boddi dyn arall, yr unpeth yn union fyddai