Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/140

Gwirwyd y dudalen hon

dylanwad terfynol bron bob amser ar ein hagwedd ni tuag at natur. Dyn, mewn gwirionedd, sy'n cosbi dyn, a chyfiawnder dyn sydd yn dial. Bydd gweithred anghyfiawn yn peri i ddyn golli ei ymddiried ynddo'i hun, ac ar ôl llawer gweithred anghyfiawn, bydd y gorffennol yn ein digalonni yn lle ein cynnal. Ni all dyn fyw nac ymddwyn onid mewn cyfiawnder, am hynny y cosbir ein anghyfiawnder; a phan ddêl awr y cosbi, bydd popeth yn ymddangos yn gyfiawn ac yn ein herbyn, er na bo dim felly ynddo'i hun, ond mai nyni, er ein gwaethaf, sy'n parhau'n gyfiawn hyd yn oed yn yr anghyfiawnder ei hun.

Gwelir oddi wrth yr ymresymiad hwn fod yr awdur yn mynd yn groes i'r rhai sy'n rhoi dyn yn rhan, hyd yn oed os y rhan bennaf, o natur, ond y mae ganddo lawer i'w ddywedyd drosto'i hun ar y pen hwnnw hefyd. Gan mai'r cwbl a wyddom ni am natur yw'r hyn y mae hi yn ei wneuthur a'r modd y gwna; gan na wyddom ni mo'i diben hi nac ychwaith a oes iddi gydwybod, nid gwiw i ni ddywedyd yn bendant nad oes iddi foes. Os gwrando ar natur yn unig a wnawn, yna trechaf treisied, gwannaf gwaedded yw'n hunig reol ni, ac y mae'r rhai sy'n dal damcaniaeth datblygiad, er na feiddiont addef hynny, yn seilio eu moes, mewn gwirionedd, ar gyfiawnder natur.