Erbyn heddiw, yn wir, dyna'r syniad sydd oddi tan ein holl fywyd, onid yn unig fywyd y teulu— yno yn unig, i'r rhan fwyaf o ddynion, y mae ychydig o wir gyfiawnder, caredigrwydd a serch yn rheoli. Ond gan na ŵyr dyn ba beth yw diben natur, deil Maeterlinck nad oes gennym hawl i'w dynwared, mwy nag y byddai gennym hawl i ddynwared un a wnâi beth a fyddai ddrwg neu greulon yn ein golwg, a ninnau heb wybod y rhesymau, dwfn ac iachus, efallai, a fyddai tan y peth hwnnw. Efallai fod natur, yn ystod canrifau, yn gwneud cam y bydd ganddi ganrifau i'w unioni; ond nid oes i ni, nad ydym yn byw ond ychydig ddyddiau, megis, ddim rheswm dros efelychu'r peth na allwn ei weled yn ei grynswth na'i ddilyn na'i ddeall. Ac onid yw natur yn gyfiawn, y mae hi yn gyson. Pe mynnem ninnau fod yn anghyfiawn, byddai'n dra anodd i ni fod, am y byddai raid i ni fel hithau fod yn gyson; ac yn ei berthynas â'n meddyliau, ein teimladau, ein nwydau a'n bwriadau ni, pa wahaniaeth sydd rhwng cysondeb a chyfiawnder?
Gadawn, medd yr awdur, i rym deyrnasu yn y byd oddi allan, a thegwch yn ein calon ninnau. Wrth astudio ein cariad at gyfiawnder a gwirionedd, efallai y down i ddeall pa beth ydyw'r nwyd honno. Pa un bynnag, byddwn yn sicr—a dyna'r peth pwysicaf o ddysgu sut i'w meithrin a'i phuro.