Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/142

Gwirwyd y dudalen hon

Eto, gwaith anodd iawn fydd hynny, gan nad yw'n moes ni heddiw yn abl i chwanegu nemor ddim at hen foes y Dwyrain, a feithrinwyd, yntau, wedi'r cwbl yng nghanol trais ac anghyfiawnder erchyll. Pan fo dyn gyfiawnaf at ei berthynasau, ei gyfeillion, ei gymdogion a'i weinidogion, y gwêl ei fod anghyfiawnaf at bawb eraill. Ni wyddom ni ddim eto sut i fod yn gyfiawnach at eraill, o leiaf, ni wyddom sut i fod felly heb ymwadiadau na wnaent nemor les am na allent fod yn unfryd, ac am y byddent yn debyg o fynd yn groes i ddeddfau dyfnaf natur, deddfau sy'n gwrthod ymwadiad ym mhob ffurf ond cariad y fam. Dyna gyfrinach dynol ryw, a bydd honno yn ei datguddio'i hun o dro i dro ym munudau gwir beryglus ei hanes. Hwyrach bod yr awr yn dynesu iddi lefaru o'r newydd.

Dyma, hyd y gwelaf i, beth tebyg i'r "datguddiad" y bydd diwinyddion diweddar yn sôn am dano, ond na fyn Maeterlinck ei ddisgwyl o'r un lle. Araf iawn, medd ef, ac annhebyg iawn i syniadau'r bod unigol yw syniadau'r hil, a chwestiwn difrif yw a ellir drwy ryw ymdrech gyflymu awr neu droi mymryn ar benderfyniadau'r lliaws mawr di-enw sydd o gam i gam yn cyrchu at ryw ddiben nas gwelir. I ni yn y cyfnod hwn, dylai geiriau fel y rhai a ganlyn, a gyhoeddwyd flynyddoedd cyn y Rhyfel Mawr, fod megis geiriau proffwyd: