Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/143

Gwirwyd y dudalen hon

Ennyd beryclaf dynoliaeth oedd pan dreisiai a phan laddai'r tylwythau cyntefig ei gilydd, pan oedd dial yn cynhyrchu dial a dial am ddial drachefn. Eto, ymhlith pob pobloedd farbaraidd, gyda bod. arfau'r llwyth yn dyfod mewn gwirionedd yn beryglus, gwelid dialedd yn arafu'n sydyn o flaen arfer nodedig a elwid yn bris gwaed.

Cyfeirir yma at y peth a elwid "galanas" yn y Cyfreithiau Cymreig. Tyb Maeterlinck mai un o syniadau'r hil yw hwn, am y buasai'n wrthwynebus ac atgas hyd yn oed gan y doethion. unigol. Greddf y lliaws ydoedd, medd ef, yn ei hamddiffyn ei hun rhag syniadau rhy bersonol, rhy ddynol i ddygymod â thelerau bywyd ar y ddaear. Dyma eto eiriau gwerth eu hystyried yn ddwfn:

Hyd oni chaffo'r hil y ffordd angenrheidiol i helaethu cyfiawnder eto-ac fe'i caiff yn ddi-boen pan fo'r perygl fwyaf, onid ydyw hi wedi ei gael. ac eisoes yn newid rhan o'n diben heb yn wybod i ni-a chan weithio oddi allan fel pe bai iechydwriaeth ein brodyr yn dibynnu ar ein hymdrech ni, y mae i ninnau, megis yr hen ddoethion gynt, gennad i fynd ar dro i mewn i ni ein hunain; ac oni chaffom berffaith dawelwch, odid na chawn obaith annileadwy, canys, er gwaethaf popeth, y mae'n sicr fod yng ngwaelod bywyd moesol pob un ohonom ddelw y cyfiawnder anweledig a di-lwgr a geisiasom yn ofer yn y nef, yn y byd, ac yn nynoliaeth. Dyna lle y mae'r cwlwm deallus rhwng achos ac effaith. Cyfiawnder yw gradd flaenaf y dirgelwch, a phan ufuddhaom iddo ef, gallwn fyned rhagom, yn rhyddach ein hysbryd a thawelach ein calon, i chwilio cyfrinach y dirgelwch ei hun.