Yma, daw'r awdur at gais dynion i esbonio ac esguso pethau iddynt eu hunain. Dibynnu ar Dynghedfen, medd ef, y mae'r beirdd sy'n disgrifio bywyd, gynt ac eto, am fod hynny yn gyrru pethau y byddai'n boenus eu hegluro ac yn anos fyth eu hesguso, yn ddigon pell i'r anweladwy neu'r annealladwy. Felly y ceisiwyd defnyddio malurion delw y dduwies ofnadwy a reolai yn nhragoedïau Aeschylus, Sophocles ac Euripides—yno y cafodd llawer bardd ddeunydd at lunio duwies newydd, fwy dynol, lai pendant, a haws amgyffred amdani. Ond myn Maeterlinck holi pam y dyd y bardd yn ei gerdd esboniad nas derbyniai mewn bywyd, a gwad y syniad cyffredin iawn fod dynion pan fônt mewn helbul yn gweled gwirioneddau nas gwelant ar oriau tawelach. Nid wyf yn sicr a yw ef yn rhoi digon o bwys ar ddisgyblaeth yr oriau helbulus a chysylltiad y ddisgyblaeth honno â'r oriau tawelach a fydd yn canlyn. Y mae ganddo bob hawl i ofyn "Pa foment y dylid ei dewis i roi ystyr i fywyd?" Nid annheg ychwaith yw ei ddywediad y bydd dehonglydd bywyd yn gyffredin yn dewis yr oriau trwblus, ond ychwanega ef: