Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/146

Gwirwyd y dudalen hon

Gan nad oes ganddo na'r amser na'r gallu i ddangos holl fân achosion syml anhapusrwydd dyn, gesyd yn eu lle un achos cyffredinol a dyrys; ac ym mha le y ceir hwnnw onid yn y geiriau y byddwn yn eu sibrwd pan fynnom ymostwng mewn distawrwydd-duwdod, rhagluniaeth, tynghedfen, cyfiawnder tywyll ac anhysbys. Onid yw'n bryd adolygu ein cyffelybiaethau a'n cymhariaethau, canys nid dibwys yw byw yng nghanol cyffelybiaethau gau, hyd yn oed pan wypom mai gau font. Diweddu a wnânt trwy gymryd lle'r syniadau y bônt yn sefyll drostynt. Nid yw angau i ni mwy yn gymaint o ddychryn ag ydoedd gynt, ond a yw ein moes yn is, yn llai pur a llai dwfn er pan yw'n fwy unplyg? A gollodd dynoliaeth un teimlad anhepgor wrth golli arswyd? Ac nid yr anhysbys yn natur sydd yn ein dychryn, nid dirgelwch ein byd ni, eithr dirgelwch y byd arall, dirgelwch moesol. Ni rydd daeargryn, er enghraifft, ofn ar ein hysbryd oni thybiom mai gweithred o farn neu gosb oruwchnaturiol fydd. Yr hyn sydd yn peri braw, amgen nag ofn rhag perygl agos ond naturiol, yw'r syniad tywyll am gyfiawnder, y cyfiawnder y mae etifeddiant yn sefyll drosto yn nramâu Ibsen, er enghraifft; mewn gair, ac er gwadu hynny, wyneb Duw sydd yn adymddangos, a hen fflam uffern sydd yn sio eto dan y maen y ceisiwyd ei selio arni. Ond nid yw'r ffurf newydd ar Dynghedfen mor dderbyniol â'r hen ffurf, oedd yn gyffredinol ac amhendant. Nid ydys na mawr nac aruchel am ein bod yn meddwl yn ddi-baid am y peth diadnabod a diderfyn, ac ni bydd y meddwl hwnnw yn wir iachus oddieithr pan fo'n dâl diddisgwyl i'r ysbryd a ymroes yn ffyddlon ac yn llwyr i astudio'r peth terfynedig a'r peth y gellir ei adnabod. O wneuthur hynny, fe welwn yn fuan fod gwahaniaeth nodedig rhwng y dirgelwch sy'n blaenori'r peth nas gwyddom â'r dirgelwch sy'n canlyn y peth y bôm wedi ei ddysgu.