Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/147

Gwirwyd y dudalen hon

Diau fod y meddylwaith yma yn ddwfn ac yn ddidwyll. Un pwynt yn unig sy betrus, os ydym yn iawn ddeall yr awdur, sef, a ellir dehongli bywyd" yn unig wrth ei oriau tawel, mwy nag wrth ei oriau trwblus?

Yn yr adran ar "Deyrnasiad mater," honna'r awdur fod popeth yn dangos i'r cyfiawn mai ehud fydd, oni bai gael ynddo ef ei hun gymeradwyaeth na ellir mo'i hesbonio, a thâl mor ddi-afael fel mai ofer ddigon yw pob cais o'r eiddom i ddisgrifio hyd yn oed ei fwynderau lleiaf ansicr. Ac eto, meddai, haws fyddai gennym golli cyfoeth, tawelwch, iechyd ei hun, a hyd yn oed flynyddoedd o'n heinioes, na cholli'r gynneddf i ganfod a mwynhau prydferthwch naturiol neu foesol. Fe wêl y darllenydd fod Maeterlinck yma yn dyfod y ddadl rhwng mater a rhywbeth arall, ac er ei fod ef yn ddiau yn cyffredinoli ar y mwyaf wrth sôn am y pwys a rydd rhai dynion ar "brydferthwch naturiol neu foesol"-y mae'n amheus iawn a aberthai "tywysogion diwydrwydd" yn ein gwlad ni geiniog o'u cyfoeth er mwyn un math ar brydferthwch-eto y mae ei feddyliau ar y pwnc yn llawn o bob ansawdd wych ar bwyll dyn. Disgrifia'r mwynhad anghyffwrdd hwnnw a ddaw, dywedwn, i rai dynion wrth ganfod prydferthwch naturiol neu foesol, fel rhyw gylchoedd