Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/148

Gwirwyd y dudalen hon

neu loerennau[1] o oleuni, a thyb mai o gwmpas y lloerennau hynny yr ymgasgl bywyd dyn fwyfwy hyd ddiwedd amser. Gellid maddau i ni yn y cyfnod materol yr ydym yn byw ynddo am amau ffydd o'r fath, ond y mae ganddo ef lawer i'w ddywedyd trosto'i hun. Eddyf fod ein cyfnod ni yn edrych fel pe na bai'n caru dim ond mater, ond gan ei garu," meddai, " eto yn ei ddofi mor brysur fel pe mynnai ei feistroli a'i lwyr adnabod tuag at ryddhau'r dyfodol rhag yr ymchwil aflonydd am ddedwyddwch y mae'n beth naturiol gobeithio ei gael mewn mater, cyhyd ag y bôm heb dreulio ei holl adnoddau a dyfod o hyd i'w holl gyfrinachau."

Er maint y materoldeb hwn, tebyg gan Maeterlinck y daw ryw ddydd wrthdro tra difrif yn erbyn y nwyd am fwyniannau mater. Mynych y dywedir na ddaeth yr awr eto pryd y dichon dyn ganfod yn glir yr hyn a berthyn i'r corff ac i'r ysbryd, ond pa bryd y daw hi, medd yntau, "os myn y rhai y mae'n rhaid bod yr awr wedi taro iddynt ers amser hir, gymryd eu harwain yn newisiad eu dedwyddwch gan ragfarnau tywyll y lliaws?" Gellid gofyn pwy yw'r lliaws, efallai,

  1. Lloeren yw gair rhannau o Sir Ddinbych am ryw gylch disglair neu olau—byddai lloeren olau yr un ystyr yn union â foyer de lumière gan Maeterlinck.