Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/149

Gwirwyd y dudalen hon

gan gofio ddywedyd o'r awdur eisoes fod greddf yr hil weithiau'n achub yr hil rhag ei difodi. Ond efallai y dylid gwahaniaethu rhwng termau fel" greddf yr hil" a "rhagfarn y lliaws." Y mae gennym hawl, medd Maeterlinck, i bopeth a ddichon ffafrio a chynnal twf llawn ein cyrff, ond deil yntau, fel athrawon y crefyddau, y dylid pennu terfynau'r hawl honno mor fanwl ag ag y bo modd, am fod y cwbl a groeso'r terfynau hynny yn niweidio'r rhan arall o'n bod, sef yr ysbryd, y sydd fel blodyn y bo'r dail naill ai yn ei fagu neu yn ei fygu. Ar y pen hwn, diau mai ceisio crynhoi ei ddysgeidiaeth ef yn ei eiriau ei hun fyddai orau: