"O degli altri poeti onore e lume."
YN 1903 y cyhoeddwyd cyfieithiad Daniel Rees o'r Divina Commedia i'r Gymraeg, cyfieithiad ffyddlon a manwl, ffrwyth blynyddoedd o lafur ac ymroddiad mawr. Ychydig sôn a gaed am Dante yn Gymraeg cyn hynny. Ysgrifennodd R. H. Morgan res o erthyglau ar yr "Inferno," ac ymesgusododd ar y dechrau am "draethu ar bwnc fel Dante mewn cyhoeddiad sobr, difrifddwys fel Y Drysorfa."[1] Efallai mai tipyn o ysmaldod ysgolhaig ar gost ei gyfundeb sydd yn y geiriau a ddyfynnwyd. "Glasynys a Ioan Ddu," ebr Isaac Ffoulkes (Llyfrbryf), mewn nodiad yn Y Cymro, "oedd yr unig ddau fardd a adwaenais i fyddent yn ymwynfydu ar waith Dante. Medrai Ioan ddarnau meithion o gyfieithiad (Saesneg) Cary. . . Bwriadai Glasynys un tro ddysgu yr Italeg er mwyn medru darllen gwaith ei hoff awdur yn ei burdeb cynhenid. Mynnai ef mai gan Dante y cafodd Dafydd ap Gwilym ei arial awenyddol, fod y ddau yn gyfeillion, i'r bardd Italaidd dreulio ysbaid o'i alltudiaeth yn Nghymru, ac yn bennaf gyda'i gyfaill yn
- ↑ Drysorfa, 1895.