Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/150

Gwirwyd y dudalen hon

Ar ôl llwyr ymlynu wrth y corff i ddechrau, petrusodd bryd dynoliaeth yn hir rhwng mater a'r ysbryd, ond y mae bellach yn ymlynu fwyfwy wrth y deall. Ein dyled weithian yw bwrw ymaith bopeth na bo'n gwbl fanteisiol i gynnydd y rhan ysbrydol ohonom. Y mae'r pechod yn erbyn yr ysbryd, sef y pechod oedd gan yr Iesu mewn golwg, ac y bwriodd ef y fath anathemau arno, yn dyfod yn bechod difaddau. Ryw ddydd, fe ymgydwedda ein moes â diben tebygol ein rhyw, canys darostwng ei ddull o fyw i gwplau'r diben cyffredinol y barno ef ei fod wedi ei ymddiried iddo, yw unig wir foes unrhyw fod neu fath. Ni ddyliu ystyried y corff yn elyn marwol i'r ysbryd, fel yn yr athrawiaeth Gristnogol, ond dylid cyfyngu arno ac ymwrthod â llawer peth a fynnai; ac y mae hynny yn ddyled, nid ar y goreuon yn unig, ond ar bawb, canys y mae dynoliaeth yn un ac unfryd, a meddwl y lliaws mud yn effeithio ar feddwl a chymeriad y serydd, y fferyllydd, y ffilosoffydd a'r bardd. Y mae'r llafurwr a el i edrych ar fachlud haul, yn hytrach nag i yfed a therfysgu, yn rhoddi cynorthwy di-enw a diarwybod eithr nid dibwys i oruchafiaeth fflam fawr dynoliaeth. Ond gynifer peth sydd i'w wneud a'i ddysgu cyn yr ymgyfyd y fflam fawr honno yn glir ac yn sicr! Yn ein perthynas â mater, ni wyddom ni eto pa beth i'w wneud; ni wyddom sut y dylem ymborthi, ai llysiau ai cig y dylem eu bwyta, na pha swm o fwyd y dylem ei gymryd. Y mae ein deall yn gwyro ein greddf. Y mae effaith alcohol, er enghraifft, ar y lliaws, a thrwy hynny ar y goreuon, yn gymaint fel y mae bron yn amhosibl i syniad am ddedwyddwch mwy llwyr, mwy dwfn, mwy syml, mwy tangnefeddus, mwy difrif, mwy ysbrydol, a mwy dynol gael ei eni. I ba le yr â dynoliaeth? Er na wyddom, na chymerwn lai o bleser yn y daith. Diau y daw llafur yn llai caled a thrwm, a'r pwys yw gwybod sut i ddefnyddio hamdden. Yn y trefi mawr, y mae tridiau o segura yn llenwi'r clafdai â chleifion gwaeth eu sut na thri mis o lafur. Na chredwn mai ofer ein bywyd. Gan dwf coed a llysiau'r cyfnod cyntaf, ac anifeiliaid aruthr yr ail cyfnod, teneuwyd awyr y ddaear fel y gallai eu disgynyddion ei hanadlu. Ufuddhaodd y rhai hynny i drefn eu bywyd, gwnaethant y peth oedd ddyled arnynt. Ac amlwg ein bod ninnau, wrth dryloywi gronynnau o'r un mater hyd y radd sydd gymwys i feddwl dyn, yn pennu at y dyfodol rywbeth na bydd marw mwy.