Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/154

Gwirwyd y dudalen hon

i ran anifeiliaid, ond ni bydd neb yn meddwl am feio na duwiau na thynged am eu hanlwc hwy. Y mae ynom ni, oddi tan y bod sy'n ymwybod ag ef ei hun, fod arall dyfnach, sy'n treiddio'n ôl i orffennol nas cyrhaedda hanes, ac ymlaen i ddyfodol nas treulia miliynau o flynyddoedd. Nid hy, medd Maeterlinck, yw credu bod yr holl dduwiau yn ymguddio yno, ac y dont allan yn eu tro er rhoddi i'r peth enw a ffurf y gall ein dychymyg eu hamgyffred. Ac yn y bywyd hwn y dylid chwilio am esboniad ar ein lwc neu ein hanlwc.

Gwelir fod yr awdur yn ein harwain i le tywyll yn y fan hon, a gwell fydd rhoddi'n lled gyflawn y peth y mae ef yn ei ddywedyd am y reddf y mae'n tybio ei bod mewn dyn.

Y mae ynom, eb efô, fod, sef ein myfi gwirioneddol, ein myfi cyntafanedig, cyn cof, diderfyn, cyffredinol, ac anfarwol yn ôl pob tebyg. Nid yw ein deall, nad yw ond math o lewych ar wyneb yr eigion mewnol hwnnw, yn adnabod y bod hwnnw hyd yma ond yn amherffaith... Y mae'r bod hwnnw'n byw ar wastad arall ac mewn byd amgen na'n deall ni. Ni wyr ddim am amser na lle, y ddau fur arswydus a rhithiol y mae'n rhaid i'n rheswm ni redeg rhyngddynt tan boen ymgolli. Iddo ef, nid oes agos na phell, nac a fu nac a fydd, na gwrthwynebiad mater. Gŵyr bopeth a gall bopeth. . . . Bydd yn ymwneud â'r deall mewn dulliau tra amrywiol. Mewn rhai pobl, bydd mor ddwfn ynghladd fel nad yw'n ymhel ond â'r swyddogaethau anianol a pharhad yr hil. Mewn eraill, ymddengys fel pe bai bob amser yn effro. Ymgyfyd yn fynych nes bod ei rith-bresenoldeb yn cyffwrdd. â'r bywyd allanol ac ymwybodus; ar bob llaw bydd yn ymyrryd, yn rhag-weled, yn rhybuddio, yn penderfynu ac yn ymgymysgu yn y rhan fwyaf o ffeithiau pwysig gyrfa dyn. O ba le y mae'r gynneddf hon? Ni wyddys. Nid oes iddi ddeddfau sefydlog a sicr. Nid ydys, er enghraifft, yn canfod un berthynas gyson rhwng ei hymddygiadau hi a thwf y deall. Bydd yr ymddygiadau hynny yn canlyn rheolau na wyddom ni ddim amdanynt. Yn ystâd bresennol ein gwybodau, gallem dybio mai peth damweiniol hollol yw'r gynneddf. Gwelir hi yn hwnyma ac nid yn hwnacw, heb fod lle yn y byd i ddyfalu achos y gwahaniaeth hwnnw.