Gwirwyd y dudalen hon
Gweithrediadau'r reddf hon, ebr Maeterlinck, sy'n esbonio lwc neu anlwc dyn. Saif yr anlwc o'n blaen, ond na wyddom ni mo hynny, gan mai mewn amser, y naill ar ôl y llall, yr ydym ni'n canfod pethau. Bydd y reddf hon yn rhybuddio'r rhai lwcus, ond bydd y rhai anlwcus yn mynd i gyfarfod â'u tynged. I brofi ei ddadl, rhydd yr awdur liaws o bethau hynod. Digoned nodi yma un peth a ddywed, sef bod bron bob trychineb mawr yn digwydd pryd na bo yng nghyfle'r dinistr ond rhyw hanner neu draean o'r bobl y gallesid.