Maeterlinck. Er ymado â'i hen gredo, a llefaru ohono yn nhermau ffilosoffi na chydnebydd un cyfyngiad ar ei hymchwil i hanes tarddiad ac awdurdod syniadau dynion, nid dadleuwr pigog yw ef, ac y mae ôl y ddisgyblaeth Gatholig ar ei ddysgeidiaeth gyda golwg ar ymddygiad yn arbennig. Nid yw ei etheg ychwaith ymhell oddi wrth etheg Cristnogaeth ei hun, ac ni all dyn beidio â chofio hefyd am syniadau H. G. Wells yn Lloegr, a cheisio hyderu bod y synthesis newydd yn dyfod yn ei thro. Cyhoeddwyd llyfr Maeterlinck tua dechrau'r ganrif (y drydedd fil ar ddeg yn 1903). Nid oedd meddylwyr craffaf y Cyfandir heb wybod yr adeg honno nad hir y gellid gohirio'r trychineb a ddaeth yn 1914. Yn sicer, dyna bwynt pryd y cyrhaeddodd arfogaeth y cenhedloedd ystâd oedd yn peryglu parhad yr hil. Pa un bynnag ai lwc ai anlwc yn nhrefn pethau fyddai ddiflannu o hil mor agored i drychinebau o'r fath, ni ellir peidio â chyffelybu'r gydwybod newydd yn erbyn rhyfel, a sefydliad Cyngrair y Cenhedloedd, hyd yn oed fel y mae, i'r peth a ddywed Maeterlinck am darddiad yr
Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/160
Gwirwyd y dudalen hon