Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/165

Gwirwyd y dudalen hon

OND odid nad y llyfrau pwysicaf i ddyn yw'r rhai a ddarllenodd yn hogyn, ac efallai mai gadael i'r hogyn ddyfod o hyd i'w lyfrau drwy ddamwain sydd orau. Anaml, o leiaf, y bydd y llyfrau fydd yn fy mhlesio i yn taro chwaeth fy mechgyn fel y buaswn yn disgwyl. Adwaen un hogyn a ddarllensai amryw lyfrau lawer gwaith trosodd cyn bod yn un ar ddeg oed. Darllenodd un o nofelau Maurice Hewlett wyth waith cyn ei fod yn ddeg, ac "Oliver Twist" Dickens bedair neu bum waith. Nid rhaid i neb bryderu am chwaeth lenyddol yr hogyn hwnnw. Gallai feirniadu ystori yn amgenach ac yn llawer gonestach nag ambell adolygwr wrth ei swydd.

Yr wyf yn meddwl mai ystori yn "Nhrysorfa'r Plant" oedd y peth cyntaf a ddarllenais fy hun. Yr oedd casgliad helaeth o rifynnau o'r cyhoeddiad hwnnw at fy ngalwad, a charwn fynd trwyddynt. Cof gennyf fyth am wên fy mam pan ofynnais iddi a oedd y "Drysorfa" am y flwyddyn un ar gael yn ein tŷ ni.

Nid wyf yn cofio enw fy stori gyntaf na nemor o'r digwyddiadau bellach, ond cofiaf fel y byddwn, ar ddiwrnod gwlyb, yn eistedd wrth ffenestr cegin helaeth hen blasty wedi ei droi'n ffermdy, ac yn