Yr oedd gennyf lyfr Saesneg arall a ddarllenwn ar y Sul—er nad oedd Sul caeth yn ein tŷ ni—Uplands" oedd ei enw, hanes teulu wedi dyfod i lawr yn y byd a mynd i'r "wlad uchaf" i fyw. Ni welais byth mo'r llyfr wedyn. Awyr y llyfrau hyn, yn fwy na'u digwyddiadau, sydd wedi aros hyd heddiw. Gyda hwy y mae magasîn Saesneg, "The Prize" y gelwid. Yr oedd gennyf gyfrol ohono wedi ei rhwymo. Cof gennyf rai cerddi a lluniau ynddi eto—cân Wordsworth i'r Gôg, a chân arall, yn disgrifio dyn yn dyfod i'w hen gartref ar ôl bod i ffwrdd flynyddoedd:
He comes today to tread again
The unforgotten dells.
Y cam nesaf, feallai, oedd dyfod ar draws "Cymru" Owen Jones (Meudwy Môn), yn rhifynnau, ymhlith llyfrau fy nhad. Dichon mai dyma'r llyfr a gafodd fwyaf o ddylanwad arnafi o bob llyfr a ddarllenais erioed, er nad yw ond math o eiriadur a bod ei arddull yn bopeth ond Cymreig. Ei rinwedd oedd bod ynddo ystraeon am Gymru a'i thrigolion. Bu'r llyfr hwn yn gydymaith am flynyddoedd. Am ryw reswm cudd, glynodd pob darn o hen brydyddiaeth Gymraeg sydd ynddo yn y cof, pa un bynnag a ellir ei ddeall