Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/168

Gwirwyd y dudalen hon

ai peidio. Yr oedd rhyw ysblander tynghedfennol o gwmpas y dyfyniadau hynny, megis y sydd mewn ystorm o fellt a tharanau. Nid oedd gan yr athro bach, digon diniwed, a'i dipyn Saesneg, ddim i'w ddysgu i hogyn, mwy! Hwyrach mai ei waith ef, ar orchymyn ei feistriaid, yn ein cosbi am siarad ein iaith ein hunain a roes gymaint o werth ar lyfr Owen Jones yn ei dro.

Un flwyddyn, mewn ysgol arall, lle nad oedd gosb am siarad Cymraeg, o leiaf, yr oedd yn rhaid i ni ddysgu can' llinell o brydyddiaeth Saesneg ar dafod leferydd. Darn o ganol "Lady of the Lake" Walter Scott oedd y darn dewis. Nid oedd dechrau na diwedd y gerdd yn y llyfr, ond cyn darllen y darn ddwywaith, nid oedd amheuaeth nad dyna'r brydyddiaeth orau a ddarllenswn i eto. Ni ddywedodd ein hathrawon—mwy na'r llyfr lle'r oedd y darn—ddim am Scott wrthym, na gair am ddechrau na diwedd y gerdd. Digon i ni adrodd y can' llinell, fel y gwnâi rhyw barrot. Daeth blys cael hyd i'r holl gerdd. Cefais wybod am lyfr bychan a'i glawr wedi ei liwio'n ddu ac yn goch, llyfr o waith Scott, ac yn cynnwys "The Lady of the Lake." Costiai ddeunaw ceiniog. Tolio pris y cinio bob dydd nes cael y deunaw ceiniog i'w brynu. Pan ddaeth yr arholwr ar ben y flwyddyn i wrando arnom yn adrodd rhyw gyfran o'r can'