Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/170

Gwirwyd y dudalen hon

gennyf. Ond ni ddwg Pan-Eingl y byd mo'r etifeddiaeth mwy—ceir crwydro gydag Oisin a Fionn, Oscar a Chaoilte, i hela'r baeddod rhith ar hyd meysydd o gymylau a tharth, ac ni bydd hynny oferach na bod yn "ymarferol." Amlhaodd llyfrau yn gyflym ar ôl y cyfnod hwn. Yr oedd rhywfaint o'r peth a geid gan Scott i'w gael yn "Owen Puw" Pedr Hir a "Llywarch Hen" Taliesin Hiraethog, a chymerth "Drych y Prif Oesoedd" afael rhag blaen ar y diriogaeth lle teyrnasai Owen Jones cynt. Bu'r copi hwnnw o'r "Drych"—argraffiad Llanidloes yn fenthig gan fwy na dwsin o hogiau, ac y mae nodiadau tanbaid rhai ohonynt ar ymyl ei ddail hyd heddiw, a hwythau ar led y byd, neu wedi ei adael .. .

(1917.)