Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/174

Gwirwyd y dudalen hon

Un o'r pethau pwysig a ddigwyddodd fu datblygiad rhyfeddol ar astudio'r Gwybodau naturiol. A bod yn gryno, y peth pwysicaf yn y datblygiad hwnnw fu darganfod sut i gynnull grym a'i gau mewn lle cyfyng, ei gadw yno megis yn ei gwsg, ei ddeffro'n sydyn nes ei fod yntau'n neidio allan. O hynny, y peth pennaf a enillwyd oedd medru symud pwysau yn gyflym o le i le, a holl ganlyniadau hynny. Yr un pryd, drwy ddirfawr lafur mewn lliaws o wybodau olrheiniwyd hanes datblygiad dyn o amseroedd cyn cof—ei grefft, o gam i gam; datblygiad ei arfau; ei grwydradau yn heidiau o le i le, i chwilio am fannau mwy ffafriol i fyw; anghenraid yn oruchaf hawl; ffyrnigrwydd a chreulondeb yn bennaf moddion; bod yn ddi-drugaredd a chalon-oer yn amod llwyddiant.

Ni allai cyd-drawiad y pethau hyn lai nag effeithio ar syniadau diweddar am fywyd, am wareiddiad, am lywodraeth a masnach yn enwedig. Ystyrier rhai o'r pethau a gyfrifir yn gynnyrch ac yn gyfrwng diwylliant a gwareiddiad, megis crefft y chwedleuwr, y cerddor, y prydydd, y lluniedydd, hyd yn oed y pensaer. Crynswth y pethau hynny sy'n ffurfio awyrgylch gyffredin cyfnod, bron yn ddiarwybod i'r cyfnod ei hun. Cymerer yn enwedig Gelfyddyd y Difyrwyr cymdeithasol