Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/175

Gwirwyd y dudalen hon

mwyaf arbennig, y rhai fydd yn chwedleua, yn canu ac yn chwarae i ni—y pethau sy'n cyrraedd y nifer mwyaf o bobl, yn enwedig felly drwy'r cyfryngau newyddion.

Y mae'r ymchwil am ddeunydd a ffurfiau newyddion yn beth cyson mewn celfyddyd. Nid hir fu'r Chwedleuwyr hwythau cyn dyfod o hyd i'r deunydd newydd hwn oedd at eu llaw—posibilrwydd y peiriant, a'r dystiolaeth a gaed am fanylion datblygiad dyn. Gellid asio'r ddeubeth hyn â'i gilydd a gweithio'r syniad am anesgorwch. tynged dyn, a dirni noeth ei hanes cynnar yntau, i mewn i'r gwaith newydd.

Dechreuodd datblygiad y Chwedleuwr Gwyddorus, gŵr â chanddo ddigon o ryw fath o wybodaeth am y pethau hyn fel y medrai drin. ei ddeunydd yn weddol ddidramgwydd. Bu Goethe yn yr Almaen eisoes yn fath o gychwynnydd ar y llwybr hwn. Enghraifft gynnar o'r peth yn y deyrnas hon oedd "Frankenstein," nofel Mary Shelley. Gweithiodd Jules Verne ar yr un cynllun yn Ffrainc. Ond yn Lloegr, ym mherson H. G. Wells, y caed y meistr mawr. Fel chwedleuwr yn unig, saif ef ar ei ben ei hun, yn ei storiau The First Men in the Moon neu The Invisible Man, dyweder. Ond ganed Wells yn ffilosoffydd a diwygiwr, yn ŵr o feddwl anturus,