Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/176

Gwirwyd y dudalen hon

yn gallu gosod pethau wrth ei gilydd, a chanfod ymhellach na'r cyffredin i'r dyfodol, fel y gwelwyd yn The Food of the Gods ac yn The War in the Air, heb sôn am ei lyfrau diweddarach, fel An Outline of History ac eraill. Yn y rhai hyn, y mae'r meddyliwr yn llyncu'r chwedleuwr, ac yntau fel pe bai eisoes yn sylweddoli rhai o effeithiau ei grefft gynnar ef ei hun.

Yna, daeth y ffilmennau, y lluniau byw, y rhai mud i ddechrau a'r rhai mwy neu lai aflafar wedyn, dyfeisiau rhyfeddol, a roddir gan mwyaf er hynny at amcanion lle'r afradlonir cost ar ddangos cymaint o gnawd ag a ellir a chyn lleied o feddwl ag a fynner.

Hyd yn oed wrth roi syniad am fywyd cyfnodau cyntefig, ceid awyrgylch o greulondeb ac anferthwch, hyd yn oed heb ei fwriadu, wrth gwrs, a phan ddygid y peth a elwir "diddordeb dynol" i mewn, ni byddai ond rhyw hoedenna awgrymus yn ddigon aml, wedi ei lusgo i mewn a'i fwriadu i roi awch ar sefyllfaoedd tebycach o ddiflasu nag o ddifyrru dynion cymedrol.

Aeth damcaniaethau'r rhai sy'n astudio ac yn ceisio mesur a phwyso gweithrediadau meddwl, neu feddylstadau, dyn hefyd yn ddeunydd i'r chwedleuwyr a'r dramadyddion. Daeth cnwd toreithiog o straeon, llawer ohonynt yn ddigon