Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/178

Gwirwyd y dudalen hon

un gynghanedd o'u holl symudiadau, meddent hwy. Grym oedd y tu ôl i'r cwbl, grym oedd popeth, a llefai'r bardd fod grym yn beth santaidd. Gellid ym marddoniaeth y cyfnod olrhain tuedd fwyfwy at edrych ar orthrech fel peth gwych, at edmygu caledwch y Dyn Cyntefig, at edrych ar dosturi fel gwendid. Hawdd iawn oedd i'r peth hwn ddirywio'n ddim ond rhyw osgo, ceisio cael effaith drwy ddim ond rhaffu termau a geiriau cyfnod y peiriannau, fel y gwelir yn Gymraeg beunydd.

Y mae gwahaniaeth eglur rhwng y duedd hon at fawrygu Grym a Gorthrech â'r ddefod gynt i glodfori rhyfelwyr a'u gorchestion. Nid ymffrost hanner rhamantus yr hen wlatgarwch sydd yma mwy, ond effaith apêl aruthrwch y byd cyntefig at feddyliau mwy cyfundrefnus nag eiddo'r Chwedleuwyr fel dosbarth.

Dywed beirniaid credadwy y gellir olrhain dylanwadau tebyg—atgyfodiad y Dyn Cyntefig, megis—ar gelfyddydau eraill hefyd—cerddoriaeth, tynnu lluniau, neu beintio, cerfio ac adeiladu. Tystia athrawon ysgolion fod effaith y peth a elwir jazz i'w ganfod eisoes yn eglur ar symudiadau ac ysgogiadau diarwybod plant. Mynn eraill y bydd rhai o'r trefi mawr yn ddigon o ddychryn pan orffenno'r cerfwyr newydd eu haddurno â'r erthyl-ffurfiau a welir yn rhai