Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/182

Gwirwyd y dudalen hon

Yr ydym, yn ôl pob tebyg, ar derfyn un o gyfnodau mawr hanes dyn. Dywed Berdyaev, athronydd Rwsiaidd, fod y peth y buom ni yn ei alw yn Gyfnod Rhamantusaeth ar ben, a bod yn debyg y daw Oes Dywyll eto ar ei ôl. Nid annhebyg hynny, canys y mae cyfraith fel pe bai'n torri i lawr ym mhobman. Os gwir hynny, os daw Oes Dywyll eto, nid oes dywyll heb lawer o wybodaeth fydd hi, a mwy na hynny o fedr, a bydd y wybodaeth honno a'r medr hwnnw at alwad elfennau heb y peth a gyfrifwyd hyd yma, o leiaf, yn synnwyr moesol.

Nodwedd arbennig ar ein dyddiau ni ydyw bod cymaint o ddynion yn dywedyd wrthym beunydd mor arswydus fydd ein tynged, a hynny fel pe na bai i ddynoliaeth ddim i'w wneud ond mynd yn aberth i'w dyfeisiau hi ei hun, a'i difyrru ei hun yn y cyfamser drwy ddychmygu sut beth fydd y trychineb hwnnw pan ddêl. Wedi holl fuddugoliaethau deall a medr dyn, a ddinistrir ef o ddiffyg doethineb, ynteu a fyn greddf Dynoliaeth unwaith eto ei hachub hi, er gwaethaf ei gwybodaeth a'i medr, ei rheswm a'i dealltwriaeth, rhag y distryw a ddramadeiddir i ni fel pe baem ag un ochr i'n hymwybod yn chwarae'r dynged honno er mwyn syndod i nerfau drylliedig yr ochr arall: Fel plentyn wedi ffraeo â'i fam, yn