Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/22

Gwirwyd y dudalen hon

hwn yn un peth? Onid rhyw fath ar gysur i ni, feidrolion cyffredin, wybod bod un o'r anfarwolion yn gyfrannog â ni yn rhai o weddau etifeddiaeth ein natur?

Deddf anesgor sydd yn uffern Dante, pa un bynnag ai fel cyfle ai fel cyflwr y meddyliai ef amdani. Nid eiddo ef yn arbennig yw deunydd y disgrifiad-nid yw hwnnw onid y llun yr oedd profiad dynion eisoes wedi ei fwrw megis ar len parhad.[1] Ceir y deunydd yn llenyddiaeth pob gwlad, Cymru hithau yn eu plith, y tywyllwch, y gwres a'r oerfel, "y llech las haearn a'r sarn saethau," "y pydew llenrew llawn rhych cyllestrig," y seirff a'r nadredd, "y pryfed caled coliawcwrych," "y llygod pen-garn a'r gylfinau carn," "y cythraul corniawg a'r cyrn llym sodlawg ar ei sodlau," y cŵn duon, "y rhost byrnig," a chant a mil o bethau erchyll. Y modd y trinodd ef y deunydd hwn yw arbenigrwydd Dante, y modd y deallodd y mân ddernynnau profiad, ffrwyth canrifoedd o draddodiad, gan eu cyfuno a'u cyfannu yn un synthesis. Ys gwir ei fod ef hyd yn oed yn mynd ymhellach pan fynno nag y caniatâi ei gredo iddo, megis trwy osod Cato yn

  1. Gweler Das mittelalterliche Gesicht der Göttlichen Komödie ... Rudolf Palgen. Heidelberg, 1935. Astudiaeth odidog ei dysg a'i manylder.