borthor y Purdan a dodi Trajan a Ripheus ym Mharadwys. Bu feio arno, yn wir, am hynny, ac am "gymysgu pethau paganaidd a phethau Cristnogol," sef drwy wneuthur hen dduwiau Groeg yn benaethiaid yn Annwfn, a thrwy gyfarch Apolo ar ddechrau'r Paradiso, fel pe mail ef fuasai'r unig un a wnaeth beth o'r fath, hyd yn oed yn Eglwys Rufain. Eto, faint y gwahan iaeth sydd rhwng ysbryd y peth a wnaeth ef ag ysbryd yr un gymysgedd yng ngwaith Milton, dyweder, heb sôn am y " clasuryddion a fu'n diwygio'r emynau eglwysig ymhell ar ôl ei oes ef, gan ddodi "Apolo" yn lle "Duw" a "Pharnassus" yn lle "nefoedd."[1] Ni ddianc dyn rhag teimlo bod ystyr yng nghymysgedd Dante, a dim ond ystum yn y lleill. Am ei gyfarchiad ef i Apolo a'r Awenau, yr oedd dylanwad yr hen glasuron yn fawr arno, nid o angenrheidrwydd am ei fod ef yn derbyn eu syniadau-yr oedd y peth byw sydd yn yr hen chwedlau-gwirionedd y mae Emerson yn ei alw[2] yn rhan o "deyrnas dragywydd y bardd," chwedl Lamennais.[3] Ni ellir osgoi'r casgliad bod
Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/23
Gwirwyd y dudalen hon