Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/25

Gwirwyd y dudalen hon

un campwaith. O'm rhan fy hun, y Purdan yw'r rhan orau gennyf o'r tair, am mai hi yw'r rhan fwyaf dynol. Gwae ac anobaith sydd yn Uffern, ac y mae hyd yn oed dynerwch a thosturi'r bardd yn dyfnhau'r argraff. Am ei Baradwys, y mae yn honno lawer o ffilosoffi'r ysgolheigion ac o alegori anodd i'w deall. Yn y Purdan y mae llawer gofid, ond y mae yno hefyd lennyrch hyfryd, peroriaeth fwyn, ymdrech wastadol am wellhad, gobaith parhaus. Yn ymdrech bywyd y mae'r swyn, y mae rhywbeth yn brudd mewn gorffen. Fe wnâi les hyd yn oed i'r sawl a fo sicraf o awdurdod ei feddwl ef ei hun ddarllen y Purgatorio o leiaf unwaith bob blwyddyn.

Y mae pob rhan o'r Commedia yn llawn o gyffelybiaethau barddonol prydferth, megis y disgrifiad o'r enaid yn dyfod o law Dduw fel geneth fach, "yn wylo ac yn chwerthin yn ei hafiaith"; cymharu torf o eneidiau yn y Purdan i yrr o ddefaid yn dyfod yn ofnog allan o gorlan, gan sefyll, llygadu a ffroeni, ac yna wneud y peth a wnêl y gyntaf; cyffelybiaethau lawer, o ddigwydd iadau cyffredin bywyd. Yn y Purdan eto y mae mwyaf o farddoniaeth Natur, lliwiau'r wawr a'r blodau a'r dail, cryndod tonnau'r môr, goleuni'r haul a'r sêr, y "bywyd araul" yr oedd cynifer o'r colledigion yn hiraethu amdano. O bopeth yn