Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/37

Gwirwyd y dudalen hon

na holl rianedd y byd. Tyfodd o'r arferion hyn lenyddiaeth doreithiog, ond ei bod wedi colli swyn yr hen ramantau cynnar, am ei bod wedi colli eu symledd a'u syndod. Syndod yw enaid rhamant. Lle y mae'r chwedlau Arthuraidd cynaraf heddiw yn fyw, y mae gwaith dynwaredwyr diweddarach. wedi marw. Rhydd Cervantes ei hun beth canmoliaeth i ramant "Amadis de Gaul," fel "yr orau o'r holl lyfrau o'r rhyw yma a gyfansoddwyd." Am y rhai a'i dilynodd, mynnai ef eu bwrw i'r tân bron i gyd-o leiaf, felly y dywed yr offeiriaid wrth fynd drwy lyfrgell y Don. Rhai gwrthun a salw oeddynt, meddai ef, a'u dylanwad ar foes a chwaeth yn ddrwg iawn. Eto, dyma'r llyfrau yr oedd pawb yn eu darllen ac yn byw ac yn ymddiddan yn ôl eu hesiamplau. Torri crib y chwedlau hyn, ynteu, oedd un o amcanion Cervantes, a gwnaeth hynny mor llwyr fel nad ysgrifennwyd un llyfr marchogwriaeth newydd yn Ysbaen ar ôl 1605, ac na chyhoeddwyd un o'r hen rai.

Gwnaeth hyn drwy adrodd hanes y Don Quijote (seinier, Don Cichôte). Gŵr bonheddig gwledig oedd Alonzo Quijano, wedi darllen y llyfrau marchogwriaeth nes iddynt godi i'w ben. Yn ei wallgof, gwnaeth ddiofryd y codai urdd y marchogion crwydrad i fri ac arfer drachefn.