Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/38

Gwirwyd y dudalen hon

Cymerth enw newydd iddo'i hun, nid amgen "Don Quijote de la Mancha." Glanhaodd hen arfau ei hendaid, a rhoes enw newydd i'w hen geffyl, sef "Rocinante" (rocin—ceffylyn tenau gwachul; ante—cyn neu gyntaf, enw yn dangos. mai rocin a fu cynt, ac mai ef bellach oedd y blaenaf o holl rocinos y byd). Gan na thalai Marchog Crwydrad heb riain i'w charu, dewisodd y Don eneth wledig o'r ardal, un y bu ef yn ei charu heb yn wybod iddi, i fod yn arglwyddes iddo yntau, a chan mai yn Toboso y ganed hi, galwodd hithau "Dulcinea del Toboso." Y mae rhywfaint o'r Don hyd yn oed yn y callaf ohonom, pe'i gwypem!

Ar fore yng Ngorffennaf, dyma'r Don yn cychwyn ar ei grwydr. Teithio drwy wres digon poeth i doddi ei ymennydd, pe buasai ganddo beth." Dyfod at dafarn tua'r hwyr, yn flin a newynog. Tafarn? Na, castell mawr, i'r Don. Yno, ymddwyn a llefaru yn gymwys yn ôl defod y marchogion yn y llyfrau. Cofiodd yn ystod y dydd nad urddwyd ef yn farchog. Ni allai ond marchog arall wneuthur hynny. O'r gorau. Onid marchog oedd y tafarnwr, yn byw yn y castell mawr? Mynnu o'r Don gan hwnnw ei urddo. Tipyn o gnaf oedd y tafarnwr—ie, wrth gwrs, marchog oedd ef, a urddwyd gan un