arall yn ei dro. Felly, urddo'r Don o ddireidi, a dywedyd wrtho fod eto un peth ar ôl-nid oedd ganddo Yswain i'w ganlyn. Rhyfedd fu gan y Don anghofio peth mor anhepgor, ac wedi amryw helyntion digrif yn y dafarn ac ar y ffordd, adref ag ef, a llogi gwladwr o'r ardal, Sancho Panza wrth ei enw, yn yswain iddo. Er bod lle i gasglu oddi wrth y disgrifiad nad oedd Sancho yn ŵr golygus, y mae ef yn sicr yn llawenydd tros byth.
Wedi cael yr yswain, er gwaethaf y ferch oedd yn cadw ei dŷ, ei nith a'i gyfeillion yr offeiriad a'r barbwr, cychwynnodd y Don eilwaith ar ei grwydr ben bore, a Sancho i'w ganlyn. O hynny allan cyferfydd y Don â'r anturiau digrifaf a gyfarfu marchog crwydrad erioed, megis ymosod ar felin wynt gan gredu mai cawr ydoedd; rhuthro ar ddwy yrr o ddefaid gan dyngu mai dwy fyddin anferth oeddynt; ymosod ar deithwyr ar y ffordd, gan eu cyhuddo o bob math o drosedd; dwyn dysgl bres oddi ar farbwr pentref gan daeru mai helm Mambrino (arwr un o'r rhamantau) ydoedd; gollwng yn rhydd haid o ladron oddi ar y swyddogion oedd yn eu dwyn i garchar. Un o'r anturiau digrifaf yn rhan gyntaf y rhamant, onid yn y llyfr i gyd, yw Cyfranc y Melinau Gwynt, ac ni ellir mewn ysgrif fer roi gwell syniad