Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/40

Gwirwyd y dudalen hon

am y gwaith, efallai, na thrwy gyfieithu'r hanes yn lled lawn. Gwasanaethed hyn o gynnig hyd oni chaffer ei well: {{quote| Ar hyn, gwelsant ddeg ar hugain neu ddeugain o felinau gwynt sydd yn y fro honno. Cyn gynted ag y canfu'r Don hwy, meddai ef wrth gludwr ei darian:

"Y mae ffortun yn trefnu pethau yn amgenach i ni nag y gallem ei ddymuno, oherwydd gwêl acw, gyfaill Sancho Panza, dacw ddeg ar hugain neu dipyn rhagor o gewri anferth, a meddwl yr wyf am ymladd â hwy, a dwyn oddi arnynt eu bywydau i gyd. Ac â'r ysbail a gawn, dechreuwn ymgyfoethogi, canys rhyfel da yw hwn, a mawr wasanaeth i Dduw yw symud y fath hil ddrygionus oddi ar wyneb daear."

"Pa gewri?" ebr Sancho.

"Y rhai a weli draw," medd ei gyfaill, "a'r breichiau hirion, canys y mae i rai ohonynt freichiau dwy lêg (dos leguas) o hyd."

"Gweled eich mawredd," medd Sancho, "nad cewri mo'r pethau a welir yn y fan acw, ond melinau gwynt; a'r pethau sy'n edrych fel breichiau, esgyll ydynt, a'r rheiny, wrth i'r gwynt eu troi, sy'n gyrru maen y felin."

"Hawdd gweled," meddai'r Don, "na wyddost ti nemor am anturiau fel hyn! Cewri ydynt, ac od oes arnat ofn, cilia draw, a gweddïa tra bwyf innau mewn ffyrnig ac anghyfartal gyfranc â hwy."