Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/41

Gwirwyd y dudalen hon

A chan ddywedyd hyn, ysbarduno ei farch Rocinante a wnaeth ef, heb wrando ar grïau Sancho,pan oedd hwnnw eilwaith yn dywedyd wrtho mai melinau gwynt ac nid cewri oedd y pethau yr âi ef i ymosod arnynt. Ond cyn sicred oedd ef mai cewri oeddynt fel na chlywodd lefau ei yswain Sancho, ac na welodd ychwaith pa beth oeddynt er agosed atynt ydoedd. Myned a wnaeth gan ddywedyd â llef uchel: "Na ffowch, y creaduriaid salw, canys un marchog sydd yn dyfod i'ch erbyn!"

Cododd ar hynny chwa o wynt, a dechrau ymsymud o'r esgyll mawrion, ac wrth weled hynny, meddai'r Don Quijote: "Pe symudech fwy o freichiau na'r cawr Briareus, mi baraf i chwi orfod talu!"

A chan ddywedyd hynny, ac ymgymeradwyo â'i holl galon i'w arglwyddes Dulcinea, a chrefu arni yn y fath berygl ei swcro, yng nghysgod ei fwcled, a'i baladr yn ei le, cyrchu a wnaeth â holl nerth carlam Rocinante, ac ymosod ar y felin gyntaf rhagddo. A phan oedd ef yn gwanu'r asgell â'i baladr, fe'i troes y gwynt hithau mor chwyrn nes hollti'r paladr yn ddellt, a chodi gyda'r asgell farch a marchog, a'u rholio'n ddrwg iawn eu sut ar y maes.

Cyn gynted ag y gallai ei asyn redeg, prysurodd Sancho i'w swcro, a phan ddaeth ato, cafodd na allai symud, gan mor dost fu ei gwymp ef a Rocinante.

"Duw fo'm gwarchod!" ebr Sancho, "oni pherais i'ch mawredd edrych pa beth yr oeddych yn ei wneud, ac nad oedd yma ond melinau gwynt ? Ac ni phallai neb wybod hynny chwaith, ond a fynnai beidio!"