Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/42

Gwirwyd y dudalen hon

"Taw dithau, gyfaill Sancho," meddai'r Don Quijote, "canys bydd troeon rhyfel, yn fwy nadim arall, yn agored i newid parhaus. Credu'r wyf, a gwir yw hynny hefyd, mai'r dewin Freston, hwnnw a'm hysbeiliodd eisoes o'm cell a'm llyfrau, a droes y cewri hyn yn felinau, er mwyn dwyn oddi arnaf y glod o'u trechu-cymaint yw ei elyniaeth ataf. Ond gwnaed ei waethaf, ni thâl ei ddrwg swynion ond ychydig rhag grym fy nghleddyf i!'

"Duw a roddo mai felly y bo, yn ôl ei allu!" meddai Sancho, gan ei gynorthwyo i godi a'i ddodi ar gefn Rocinante, oedd eisoes wedi hanner rhoi ei ysgwydd o'i lle.

Diwedd y rhan gyntaf o'r llyfr yw bod yr offeiriad a'r barbwr yn dyfod, wedi ymddieithro, ac yn dal y Don yn ei gwsg, ei ddodi mewn cawell a'i ddwyn adref, yn gadarn yn ei gred bod ei elynion, y dewiniaid, wedi dodi hud arno. Gobaith ei gyfeillion oedd y buasai ef yn dyfod i'w bwyll ar ôl ei gael adref, ond gobaith ofer fu.

Yn yr ail llyfr ceir hanes trydydd cynnig y Don. Cychwynnodd a Sancho i'w ganlyn fel o'r blaen, ac y maent yn cyfarfod â lliaws o helyntion tebyg i rai'r cynnig cyntaf a'r ail. Y mae'r awdur erbyn hyn yn manteisio ar gyhoeddiad y rhan gyntaf o'r llyfr drwy ddangos bod pobl yn gwybod hanes y Don, a thrwy hynny yn darparu pethau rhyfedd ac ofnadwy i'w dwyllo, er mwyn difyrrwch. Cyrhaedda'r ddau i gastell rhyw Ddug goludog, ac yno y mae'r Don yn gwneud gwrhydri