Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/45

Gwirwyd y dudalen hon

Dyma ddinoethi crach ddysgeidiaeth yr oes (a phob oes, o ran hynny), ac nid rhyfedd dynnu o'r awdur lawer yn ei ben. Y mae rhagymadrodd yr ail rhan, a darnau eraill ohoni cyn llymed a'r uchod neu lymach, ond er y cwbl nid oes wenwyn yn Cervantes. Os ei waith ef yw'r "dychan mwyaf ar frwdfrydedd dyn," da oedd ei sgrifennu. Hen gamgymeriad yw meddwl na ddichon neb ddychanu heb falais a surni. Y mae cydymdeimlad Cervantes â phob math o ddynion mor eang, a'i ddoniolwch mor siriol a rhadlon fel nad oes ynddo le i wenwyn. Er mai goganu'r llyfrau marchogwriaeth oedd un o'i amcanion, tyfodd y gwaith yn fwy na hynny dan ei ddwylaw. Onid yw ef yn caru ei gymeriadau, y Don, Sancho, yr offeiriad, y barbwr, Carasco a'r Dug a'r Dduges, a hyd yn oed y rhai sy'n sefyll dros ddosbarthiadau neilltuol, megis y tafarnwyr, y gweision a'r gyrwyr mulod? Ni buasai hyd yn oed y Don yn wrthun pe na bai'n rhywbeth mwy na delw bren i'w