Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

tharo i lawr. Hwyrach fod ei urddas yn chwithig yn aml, a'i areithiau, pan fo'n siarad yn gall ar brydiau, yn ddigon cyffredin, er maint y dotiai Sancho atynt, ond nid yw ei garedigrwydd na'i ddiniweidrwydd byth yn pallu. Beth bynnag oedd yr amcan ar y dechrau, tyfodd y Don yn gymeriad byw. Aeth gwybodaeth eang a phrofiad amrywiol Cervantes ei hun i'w lunio yn gymeriad nad ydys, er maint ei wallgof, yn ei gasáu na'i ddirmygu ddim, hyd yn oed oni bôm yn tosturio rhyw lawer ato, oddieithr pan ddygo ei bendro arno driniaeth arwach na'r cyffredin. Yr ydym yn ei dderbyn fel y mae, yn chwerthin am ei ben, yn synnu ato, ac yn rhyw deimlo'n garedig at wendidau meibion dynion wedi'r cwbl. Am Sancho, y mae ef yn enghraifft o'i ddosbarth, ac eto yn un ar ei ben ei hun. Er aruthred ei anwybodaeth a'i ofergoeledd, y mae ei gyfrwystra a'i bertrwydd yn ei wneud yn gydymaith o'r diddanaf. Y gwir yw bod ei ddiarhebion afrifed yn peri i'w ymddiddanion yn aml edrych yn bertach nag y buasai dyn yn disgwyl. Gwir fod Sancho, os yr un, yn bertach yn yr ail rhan o'r chwedl nag yn y gyntaf, ond nid yw hynny nac anghyson nac annaturiol, canys Sancho yw Sancho o'r dechrau i'r diwedd. Y mae Sancho mor anhepgor i'r ystori ag yw'r Don ei hun. Ym