Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/53

Gwirwyd y dudalen hon

gwlad a'u cyfansoddi yn ôl dull y cerddi gwerin, neu fel datblygiadau ar oddeuon y tybid eu cael mewn cerddi felly). Y mae hanes cyfodiad, ymlediad a dadfeiliad y peth yn hanes hir a diddorol dros ben. Rhydd hanes a gweithiau Uhland yn arbennig oleuni ar yr ymweithiad yn yr Almaen. Ganed ef (1787) mewn cyfnod pryd yr oedd i ramantusaeth apêl gref at lawer o bobl. "Brodor oedd," medd un o'i fywgraffyddion, "o ardal brydferth; gwelir yma glogwyni coediog, adfeilion cestyll llawn diddordeb hanesyddol, ac acw drumau llwydoer yn gloywi yng ngoleuni machlud haul. Nid pell iawn oedd adfeilion cestyll Hohenzollern a Hohenstauffen, lle bu brenhinoedd grymus yn byw. Tueddai popeth at ddeffro'r elfen ramantus yn natur y bachgen." Dyna a geir yn ei gerddi, cestyll rhamantus a thristwch a dirgelwch coedydd mawrion o'u cwmpas; nodau cyfeiliorn clychau eglwys bell; llewych haul yr hwyr ar fynyddoedd, ceyrydd, cymylau a dyfroedd, marchogion a'u gwrhydri a'u gofid. Yr oedd hen lyfrau a chroniglau lawer yn nhŷ ei daid, a thyfodd ynddo yntau hoffter at hanes gweithredoedd marchogion ac arwyr oesau cynt. Daeth yn fedrus ar dynnu lluniau a gwneud cerddi Lladin yn hogyn yn yr ysgol, a gwnaeth lawer o ganiadau Lladin ac Almaeneg yn y cyfnod hwnnw, ond nid