Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/54

Gwirwyd y dudalen hon

yr hen glasuron a ddug ei fryd. Ystori ag ynddi apêl at waed dyn ei hun yw gwreiddyn rhamant, honno sy'n troi golygfa hardd neu hyfryd i'r golwg yn "olygfa ramantus," a chrynswth o elfennau'r apêl honno yw rhamantusaeth. Clywodd Uhland ryw athro dysgedig yn darlithio, gan gymharu'r Odyssey, gweithiau "Osian" Macpherson a cherdd Ladin, gwaith rhyw fynach di-enw yn rhywle o'r wythfed i'r ddegfed ganrif, yn adrodd hanes Walthar o Aquitain, a gymerwyd yn wystl gan Attila ac a ddihangodd adref wedi hynny drwy anturiaethau lawer. Deffroes hynny ynddo gariad mawr at hen lenyddiaeth o'r fath yma. "Mor hapus fyddwn," medd ef ei hun, "pan allwn gario 'Saxo Grammaticus,' yng nghyfieithiad Müller, neu yr 'Heldensage' adref gyda mi. O'r olaf y cefais fy hoffter at yr hen chwedlau gogleddig. O'r 'Heldensage' y cymerais bwnc cerdd 'y Brenin Dall."" Hanesydd a bardd Danaidd o'r ddeu ddegfed ganrif oedd Saxo Grammaticus, a gasglodd draddodiadau'r Daniaid yn llyfr, a elwid "Gesta Danorum" neu "Historia Danica."

"Y peth yr oedd cerddi clasurol," medd Uhland yn un o'i lythyrau, "er gwaethaf dyfal ddarllen, yn methu a'i roddi i mi, am eu bod yn rhy glir, yn rhy orffenedig; y peth yr oeddwn yn