Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/55

Gwirwyd y dudalen hon

methu â'i gael mewn barddoniaeth fwy diweddar, a'i holl addurn hyawdl, fe'i cefais yma. Yr oedd lluniau byw a ffurfiau, a thu draw iddynt bellter dwfn, yn synnu ac yn swyno'r dychymyg."

Y mae cerdd "Y Brenin Dall" cystal enghraifft ag a ellir ei chael o'i gerddi yn y cyfnod hwn, a rhydd i ni syniad da am grefft y gerdd werinddull hefyd. Seiliwyd hi ar chwedl am y brenin Danaidd Wermund. Pan oedd Wermund yn hen ac yn ddall, heriwyd ef gan frenin y Sacsoniaid i roi ei deyrnas iddo ef, gan na allai ef mwy edrych ar ei hôl ei hun; neu ynteu yn niffyg hynny ganiatáu i'w fab ymladd â mab y brenin Sacson amdani. Cynigiodd Wermund ymladd ei hun â'r Sacson, ond ni fynnai hwnnw ymryson â gelyn dall. Mynnai'r cenhadon ar hynny fod i'r ddau fab ymladd. Yr oedd i Wermund fab a'i enw Uffo, yn freisgach a chryfach na neb cyfoed. ag ef, ond ystyrid mai prin o ddeall ac ysbryd ydoedd. Pa un bynnag, cynigiodd Uffo ymladd â mab y brenin Sacson ac a'r glewaf y gallai hwnnw ei ddwyn i'w ganlyn hefyd. Llawenychodd yr hen frenin yn fawr glywed hyn, ac ni allai gredu mai ei fab ef ydoedd nes ei deimlo â'i ddwylaw. Yn ôl hen arfer, dewiswyd ynys yn afon Eider fel lle'r ymryson. Yr oedd "Skrep," cleddyf enwog na safai dim rhagddo, wedi ei