Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/56

Gwirwyd y dudalen hon

gladdu yn y ddaear, am na allai'r brenin ei ymddiried i'w fab ac am nas rhoddai i arall. Cyrchwyd y llafn weithian a'i roddi i'r twysog. Safodd y bobl ar lan yr afon, ond safodd y Brenin Dall ar ben y bont, yn barod i'w fwrw ei hun i'r dwfr os trechid ei fab. Sylwer ar fanylion teimladus yr amgylchiadau. Y diwedd, fel y gellid disgwyl, yw bod Uffo yn lladd y ddau elyn—dyna'r gwahaniaeth rhwng anwes y cyfnod hwnnw ag eiddo'n cyfnod ni, er enghraifft, pryd y byddem debycach o roi'r fuddugoliaeth i'r treisiwr, a dyfnhau effaith ein crefft drwy deimlo bod rhywbeth yn arwraidd ynom fel dynion yn wyneb anesgorwch ein tynged, bron fel y bydd y dyn mewn claddedigaeth, a ddangoso ryw gadernid uwchraddol, megis. Ond dyma sut y trinodd Uhland y deunydd, gan ei ramantuso yn null ei gyfnod yntau. Rhwng y ddau yn rhywle, hwyrach, y down ninnau'r dynion cyffredin â'n hanwes ein hunain yn ein tro. Ni ddaw'r cyfieithiad, wrth gwrs, ddim yn agos at y gerdd gysefin:

Paham y mae'r gogleddig lu
Yn sefyll ar y lan?
A'r brenin dall a phenwyn fry,
Beth fynnai yn y fan?
Mewn chwerw ing resynus,
A'i bwys ar ben ei ffon,