Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/66

Gwirwyd y dudalen hon

llawer peth yn bosibl na buasai gwybodaeth oes Browning yn ei gydnabod? Cymerer rhai o syniadau'n cyfnod ni am fater a meddwl yn enghraifft o'r hyn y cyfeirir ato. "When eternity affirms the conception of an hour." Hynny yw, pan welom yn eglurach ac yn ein hymyl, megis, beth a welodd y bardd ymhell, megis wrth olau mellten. Yn wir, gellid ysgrifennu traethiad diddorol ar y gosodiad nad oes yn amhosibl ddim y gallo meddwl dyn ei ddychmygu.

Un o feirdd mwyaf "Oes Victoria," onid y pennaf ohonynt, oedd Tennyson. Ganed ef yn y flwyddyn deunaw cant a naw. Offeiriad oedd ei dad, a merch i offeiriad oedd ei fam. Dechreuodd fynd i'r ysgol yn saith oed, ond cymerth ei dad ef dan ei addysg ei hun cyn hir. Yna danfonwyd ef i Gaer Grawnt, lle bu am ysbaid, ond ymadawodd heb ei raddio, pedfai hynny rywbeth. Bu'n ymladd â thlodi am rai blynyddoedd wedyn, ond o'r diwedd, yn bennaf drwy ymdrech Carlyle, cafodd bensiwn o ddau gant o bunnau yn y flwyddyn; dechreuodd ei weithiau dalu iddo, ac ar ôl hynny gwnaed ef yn fardd y Goron, a chafodd fyd eithaf esmwyth a dibryder hyd y diwedd. Y mae'n debyg na bu erioed yn dlawd iawn, fel y cyfrifid tlodi ymhlith beirdd, ac am hynny, na wybu anobaith gymaint