Tudalen:Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain.pdf/3

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AWDL

COFFADWRIAETH AM Y PARCHEDIG

GORONWY OWAIN.

BRIW! braw! brwyn! mawr gwyn gacth!bradwy yn awr
Brydain wen, ysywaeth!
Dros Gymru llen ddu á ddaeth;
Anhuddwyd awenyddiaeth.

Och! och! ys gorthrwm ochainmawr ynof
Am Oronwy Owain,
Per wawdydd, prif fardd Prydain,
Sy wr mud îs âr a main.

Carwr, mawrygwr,Cymreigiaithydoedd,
Awdwr prif orchestwaith,
Wrth wreiddiol reol yr iaith,
Braw farw hwn, brofwr heniaith!