Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dieiddil, Duw a wyddiad,
Ie, gan mil, egin mad;
Llaw Duw iddynt, llu diddan,
Hil glwys, hael glân.

Gyr sin[1] i wan gresynol,
I Dduw a wnair, e ddaw'n ol;
Afiaeth ofer
Y sydd îs ser;
Goreu arfer, gwawr eurfain,
Moli dy Ner mal dy nain,[2]
Gwiwnef it' hwnt, gwynfyd da;
Amen yma.

BONEDD A CHYNEDDFAU'R AWEN.

[Gweler LLYTHYRAU, tudai. 52, 65, 67, 84.]

Bu gan HOMER gerddber gynt
Awenyddau, naw oeddynt;
A gwiw res o dduwiesau,
Tebyg i'w tad, iawn had Iau;
Eu hachau, O Ganan gynt,
Breuddwydion y beirdd ydynt.

Un Awen a adwen i,
Da oedd, a phorth Duw iddi;
Nis deiryd,[3] baenes dirion
Naw merch cler Homer i hon.[4]

Mae'n amgenach ei hachau;
Hŷn ac uwch oedd nag âch Iau.
Nefol glêr[5] a'i harferynt,
Yn nef y cae gartref gynt;
A phoed fàd i wael adyn
O nef, ei hardd gartref gwyn!

  1. Elusen.
  2. Margred Morris; gweler tudal. 32.
  3. Cydmar.
  4. Yr Awenau.
  5. Clêr-dosbarth o Dderwyddon awenyddol gynt, wed'yn, gelwid eu gwehilion Bon y Gler-yna Clerfeirdd, math o grwydriaid cardotlyd.