Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/31

Gwirwyd y dudalen hon

G. AB IEUAN.

[Dyma ddarnau o un o ysgriflyrau Rowland Huw. Ysgrifenwyd ar ddiwedd Cywydd yr Haf—'G. ab Ieuan, Bala, a'i cant; yr unfed flwyddyn ar bymtheg o'i oedran']

i. GAEAF AR Y BERWYN

BERWYN, glaerwyn ei glog—gan eira
Gwyn-oer, mae'n afrywiog;
Helaeth, heb fawr le haulog,
Ni chan gan eos na chog

Llydan yw’r mynydd lledoer—maith unig,
Amwyth iawn a phuroer;
Nid rhywiog ennyd rhew-oer
Bwrw niwl ar y Berwyn oer

Oer ddwl oedd nifwl y nos,—a minnau
Am ennyd o ddiddos ;
Oer iawn wg eira ’n agos,
A rhew ar fynydd a rhos.

ii. DIWEDD CYWYDD YR HAF.

Er bod rhai am y gaeaf,
Minnau o hyd mynna haf ;
Am y gwanwyn mi gwynaf
Er h'wn daw'n fuan yr haf ;
Duw, am hynny dymunaf
Yma o hyd imi haf;
Duw, it geinwych datganaf
Gerdd hyfryd ar hyd yr haf ;
A melus dant y molaf
Yr Hwn sy'n rheoli'r haf ;
A thant a nabl parablaf
I'r Hwn sy’n goleuo'r haf ;
Cynnes i Dduw y canaf
Os rhydd i’m Iesu, a’r haf.