Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/8

Gwirwyd y dudalen hon

iawn ar y wlad oddi amgylch. Ynddi y cynhaliai’r goron Court Leet Penllyn. Yn amser gweu gartref yr oedd yn hynod am ei marchnad hosanau, oherwydd eu gwead manwl esmwyth. Ynglŷn a hanes meddwl Cymru, er hynny, y mae’r Bala enwocaf. Hi yw cartre’r Ysgol Sul. Ohoni hi y daeth syniad am Gymdeithas Beiblau i’r holl ddaear ; un o'i beirdd hi oedd wedi dymuno “ Beibl i bawb o bobl y byd.” Bu ci Sasiynau'n gyrchfa i Cymry am flynyddoedd lawer. Y mae’n gartref Cyfarfodydd Llenyddol er’s cenedlaethau. Gwnaeth gwasg Saunderson ac ereill ohoni ddaioni i Gymru nas gellir ei fesur. Ac yn ddiweddarach, bu'n gartref i golegau dau o enwadau pwysicaf Cymru. Yn y gyfrol hon ceir trem ar hanes meddwl y dref o ddechrau’r ddeunawfed ganrif ymlaen. Ym Morus ab Rhobert ceir adlais o'r Diwygiad Puritanaidd a chyfoeswyr Morgan Llwyd. Yn Rowland Huw a Robert William y Pandy ceir cyfuniad o effaith y Diwygiad Puritanaidd ar lenyddiaeth, oedd megis yn fore i ddydd o ddiwygiad Cymreig, ac effaith y deffroad Eisteddfodol ddaeth a’r mesurau caethion i fri newydd. Pan ddaeth y Diwygiad Methodistaidd, clywodd y Bala ei lais yn ei phregethwyr, Simon Lloyd a Dafydd Cadwaladr, ac yn ei gwehyddion Wiliam Jones a William Edwards. Ac yn y dyddiau hynny daeth Charles i’r Bala Pan ddaeth y Deffroad Llenyddol, cynrychiolir ei wahanol gyfnodau gan Ioan Tegid, Siarl Wyn, Tegidon, a Roger Edwards. Mae beirdd eto yn y Bala.

OWEN M. EDẄARDS.
Llanuwchllyn.