Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/10

Gwirwyd y dudalen hon

sanctaidd, ac amlwg iawn ar ei deulu, ac ar bawb y deuaï i gyffyrddiad â hwy. Gŵr gwastad ei fywyd oedd Ifan Ifans; dyn gonest ac ymroddol pa le bynnag y byddai ei ddyledswydd. Yr oedd ar ei oreu yn y capel, yn ei deulu, ac ar y ffordd fawr, lle yr oedd ei alwedigaeth feunyddiol. Cadwai Ifan Ifans yr ysbrydol yn uchaf bob amser, a gwnai bob peth megis i'r Arglwydd ac nid i ddynion, nid gyda llygad wasanaeth fe! boddlonwr dynion, ond mewn symlrwydd calon, yn ofn Duw.

Ac fel ei dad, un felly yn union oedd y diweddar Barch. Tomos Efans (Cyndelyn). Pan ydoedd yn fachgen, ac wedi tyfu i fyny, dwys a difrifol oedd ei fywyd yn wastad, a phob amser fel y wenynen yn ddiwyd gyda'i waith. Gŵr ymroddgar a hunan-aberthol fu ar hyd ei oes ddefnyddiol.

Diau mai amherffaith iawn oedd yr addysg a gafodd o'r tu allan i'w gartref, ac yr ydoedd wedi troi allan i weithio efo ffarmwrs cyn ei fod yn ddeuddeg oed, a'r peth tebycaf yw fod yr ysgol ddyddiol a gafodd cyn hynny y peth nesaf i fod heb ddim ysgol o gwbl, i gyfarfod â gofynion dyfodol ei fywyd.

EI ENEDIGAETH A'I FABOED

Ganwyd ef yn y flwyddyn 1837. Can mlynedd o fewn un i'r flwyddyn hon.

Dyddiau geirwon oedd y dyddiau hynny, y cyflog yn fychan, a'r ymborth yn brin. Trwy ddeddf 3 George