Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/11

Gwirwyd y dudalen hon

IV, pen. 106, 1822, pasiwyd i werthu bara wrth ei bwysau. A blwyddyn cyn geni ein hanwyl frawd pasiwyd Deddf 6 a 7, William IV, pen, 37, i reoleiddio gwerthu bara. Yn 1836, ac yn y blynyddoedd rhwng 1830 a 1840, yr oedd pris y bara rhwng 10½d. a 9d. am dorth 4 pwys. Dyddiau "Deddfau yr Yd." Gwelwn felly i'n brawd a'n cyfaill gael ei eni yn y flwyddyn y bu farw y brenin William IV, ac yr esgynodd y frenhines Victoria į orsedd Prydain. Felly cafodd fyw ei theyrnasiad hi ar ei hyd, a theyrnasiad Edward VII, hyd 1908. Pwy na chlywodd am galedi y 40ties, fel eu gelwir cyn didaymu deddfau yr yd yn 1846. Ac mor ddifrifol oedd cyflwr addysg yn y Dywysogaeth yn y cyfnod, yr oedd yn ddifrifol o wael ei ansawdd, a'r wlad yn dioddef o'r herwydd. Cafwyd y Gyfundrefn Genedlaethol o Addysg yn 1834, rhyw dair blynedd cyn geni ein brawd. Ac o'r adeg honno, efallai y gallwn olrain y deffroad addysgol yng Nghymru yn 1847, pan ydoedd ein gwrthrych yn 10 mlwydd oed. Nid oedd ond 841 o ysgolion yng Nghyinru y flwyddyn honno, a'r rhai hynny gan mwyaf yn ysgolion eglwysig. Da oedd cael y pryd hwnnw rhyw fath o ysgol, a rhyw fath o ysgol- feistr. Ei brif gymhwyster oedd ei fod yn medru tipyn Saesneg. Ceid yr ysgol-feistri yn gyffredin o blith hen filwyr; rhyw un wedi bod yn Lloegr am yspaid, neu wedi bod yn gwasanaethu gyda Saeson yng Nghymru. Fel hyn ganwyd "Tomos Efans, Fforddlas", pan oedd Cymru yn dechreu deffro, rhyw ddylanwad cyfrin fel yr haul yn y bore yn goglais bywyd cysglyd gwerin ein gwlad annwyl. Pan y clywodd ac y deallodd ein cenedl fod y Saeson yn ei difrio, ac mai nid digon ganddynt oedd ein gormesu a sathru ein hawliau fel dineswyr o dan eu traed, ond y ceisient ein gwneud fel cenedl yn wawd i'r byd, hyd yr oedd yn eu gallu, a hyny yn bennaf o achos ein hymlyniad wrth ein hiaith a'n Hanghydffurfiaeth.

Siarad yr ydym am ddyddiau "Brâd y Llyfrau Gleision.' Yn ei ddyddiau ysgol ef, yr oedd William Williams, Ysw., A.S., Coventry, yn codi ei lais yn y Senedd ac yn y wasg dros addysg Cymru, pan, er gwaethaf y Saeson a'r clerigwyr y cafwyd Deddf yr