Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/15

Gwirwyd y dudalen hon

ynddo, yn gymeriad cryf, gonest, a diymffrost, wedi ei drochi yn ysbryd a nerthoedd dwyfol "Diwigiad 1859," a'i fywyd yn addewid am ddyn gwerthfawr i'r eglwys Gristionogol ar y ddaear, ac ni siomwyd neb ynddo. Daliodd i dyfu o'r adeg y daeth at yr Arglwydd hyd ddiwedd y daith mewn rhinwedd a defnyddioldeb.

EI SYMUDIAD I GONWY.

Dyma y symudiad cyntaf yn ei hanes wedi'r symudiad mawr o'r tywyllwch i'r goleuni. Nid oedd Conwy ymhell o'r Fforddlas, rhyw bedair milltir a hanner, ond pan y mae dyn yn myned oddi cartref am y tro cyntaf, y mae pob man ymhell, a phawb yn ddieithr, eisiau ffurfio cyfeillion newydd, a gwneud lle newydd iddo ei hun mewn amgylchoedd newydd. Pan oedd ein brawd yn rhyw dair ar hugain mlwydd oed, yn y flwyddyn 1860, cafodd le yn Iard y Ffordd Haiarn, yng Nghonwy y pryd hwnnw, Bangor yn awr.

Saer coed ydoedd, ac yn weithiwr da, distaw diwid; ac wedi bod yno am ychydig flynyddoedd, oherwydd ei waith a'i gymeriad, cafodd ffafr yng ngolwg ei gyflogwyr, ac fel Joseff yn yr Aifft, dyrchaf- wyd ef i fod yn benweithiwr (foreman) ar y Seiri coed, a chafodd y Cwmni y fantais o weled ei werth yn y safle honno. Dyrchafwyd ef drachefn, wedi ychydig flynyddoedd, yn Arolygydd y Pontydd, Dosbarth Bangor (Bridge Inspector). Swydd bwysig, cyfrifoldeb mawr yn perthyn iddi. Rhaid oedd iddo fod yn medru ar bensaerniaeth, tynnu planiau, a bod yn gyfarwydd âg egwyddorion Adeiladaeth pontydd, &c. Ymddiriedai y cwmni ynddo am y gwaith pwysig hwn. Llanwodd y swydd bwysig yma er bodlonrwydd i'w gyflogwyr ac anrhydedd iddo ei hun hyd y flwyddyn 1904, pan yr ymddeolodd ar ei flwydd-dâl. Oherwydd yr ymddiried oedd ganddynt ynddo, cadwasant ef gyda'i waith ddwy flynedd o leiaf dros yr amser arferol i'w gwasanaethyddion ymddiswyddo. Ac ar y 26ain o Dachwedd, 1904," daeth cynrychiolwyr y gweithwyr yn yr Iard i'w bresantu ac gyflwyno iddo eu dymuniadau da yn ei gartref yn Glan Conwy.