Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/16

Gwirwyd y dudalen hon

YN PRIODI, AC YN GWNEUD CARTREF IDDO EI HUN.

Wedi ei sefydliad yng Nghonwy, yn 1860, cael gwaith sefydlog o fewn llai na dwy flynedd—1861 neu 1862—priododd ag Ann, merch Ellen Jones, Bryn Goleu, Ochr y Penrhyn, ger Llandudno. Tyddyn bychan oedd Bryn Goleu, ag ydyw, hyd y gwyddom. Ni wyddis enw ei thad. Merch oedd ei mam-Ellen Jones-i John ac Ann Jones, Bryn Goleu. Pan oedd Ann, a ddaeth wedi hynny yn wraig y Parch. Tomos Efans, yn ychydig fisoedd oed, bu farw ei mam o'r Typhoid Fever, a chyda'i thaid a'i nain yn y Bryn Goleu y magwyd priod ein gwrthrych, yn annwyl a gofalus. Cafodd bob mantais ag oedd yn eu gallu i'w rhoddi iddi mewn addysg, &c., a rhoddasant iddi grefft, sef hetwraig (Milliner). Nid ydys yn gwybod hanes John ac Ann Jones, Bryn Goleu, mewn unrhyw fodd. Tueddir ni i gredu mai Annibynwyr oeddynt, am yr unig reswm mai yn Llandudno y priodwyd Miss Ann Jones, gyda gwrthrych y gwaith hwn. Priodwyd hwy gan y diweddar Barch. Richard Parry (Gwalchmai), gŵr adnabyddus ac cnwog yn ei ddydd.

Y mae gennym sail i gredu mai yng Nghonwy y gwnaeth Mr. a Mrs. Tomos Efans eu cartref wedi iddynt briodi, a'i fod yn gartref hedd. Bu iddynt naw blant, sef chwech o feibion a thair o ferched. Cafodd saith o honynt fyw i weled claddu eu tad—pedwar yn unig sydd yn fyw heddyw yr oll wedi eu magu yn annwyl a gofalus. Cawsant bob hyfforddiant yn ddiau i'w cychwyn ar ffordd y bywyd pan o dan ofal eu rhieni.

DECHREU PREGETHU A'R BLYNYDDOEDD YNG NGHONWY.

Y mae cryn dywyllwch ar ei hanes yn y wedd a'r cyfnod yma. Yma y bu y drafferth fawr, ac er chwilio a holi ni ddaeth goleuni. Dywedir iddo ddechreu pregethu yn 1859, a chael ei ordeinio yng Nghonwy yn 1863. Peth digon naturiol i wr ifanc o'i dueddiadau crefyddol ef, ac yntau yn ddwy ar hugain mlwydd oed, yng nghanol y dylanwadau nerthol hynny, oedd bod yn barod i wneud popeth dros ei Arglwydd. Cadwai yr enwad gyfrif o'u gweinidogion a'u pregethwyr.