Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/9

Gwirwyd y dudalen hon

Y DIWEDDAR BARCH. TOMOS EFANS

——————♦——————

MAB ydoedd y gwr annwyl uchod i Ifan a Margaret Ifans, Y Graig, Glan Conwy. "Bwthyn bach tô gwellt" oedd cartref dedwydd Ifan a Margaret Ifans, lle y buont yn ddarbodus, gofalus, a thyner iawn i fagu chwech o blant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Dysgent eu plant mewn geiriau ac esiampl. Nid oedd neb yn yr oes honno, oddeutu can mlynedd yn ol, mwy nag sydd yn yr oes oleu a breintiedig hon, fedrai roddi gwell addysg i blentyn na rhieni crefyddol yn teimlo eu cyfrifoldeb fel y cyfryw. Rhieni felly gafodd y diweddar Tomos Efans. Rhinweddau athrawon ydynt athrawon rhinweddau. Y mae hyn, yn ol natur pethau, yr un mor wir ag ydyw yr hen ddiareb Gymreig :- mai "Pechodau athrawon ydynt athrawon pechodau."

Gŵr duwiol, amlwg a defnyddiol oedd Ifan Ifans, ac fe chwareuodd ran bwysig iawn gyda gwaith yr Arglwydd yn Salem, Fforddlas. Yr oedd yn Fedyddiwr cadarn, a selog dros y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu; yn llenwi y swydd o ddiacon hyd yr ymylon, mewn ysbryd a gwaith, ac yn arweinydd diogel mewn byd ac eglwys yn y lle hanesyddol uchod. Ac yr oedd dylanwad amlwg y gwirionedd ar ei fywyd ef ei hun yn ddylanwad distaw,