Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/106

Gwirwyd y dudalen hon

apêl ddifrifol Mr. Richard, y mae yn amhosibl llai na chydnabod fod y geiriau hyn wedi dwyn ffrwyth sydd i'w weled yn amlwg yn sefyllfa ein cynrychiolaeth Seneddol yn y dyddiau hyn; ac yn yr ysbryd pybyr a amlygwyd gan luaws o ffermwyr, y rhai a erlidwyd mor greulon, ar ol hyn, am sefyll dros eu hegwyddorion wrth yr Etholfa. Ac y mae Cymru, ar y cyfan, wedi parhau yn ffyddlon i wneud hynny hyd yn awr. Cafodd Mr. Richard ei hun ei ddanfon i'r Senedd ar ol hynny—yr "Aelod dros Gymru," fel y gelwid ef—a gwelwyd gan Gymru 28 o wir gynrychiolwyr ei hegwyddorion arbennig. Dyma ddechreuad "codi'r hen wlad yn ei hol" mewn gwirionedd.

Mae yn anhawdd i'r rhai sydd yn ieuainc feddu syniad am yr anwybodaeth oedd ymysg y Saeson am y Cymry a'u hynodion, a'r cam ddarluniadau o honynt a ymddanghosai yn y papurau, o bryd i bryd, flynyddau yn ol. Derbynnid Adroddiadau y Dirprwywyr fel gwirionedd gan ryw rai, er mor lwyr oedd yr atebion i'r cyhuddiadau a ddygid yn ein herbyn. Yr oeddem, meddent, yn baldordd iaith aflafar nad oedd modd ei siarad heb beryglu y peiriant llafar; ac y mae rhyw syniad yn gorwedd yn ddwfn yng nghalon y Sais fod pawb nad yw yn gallu siarad Saesneg yn hanner barbariaid.